Mae tri Aelod Seneddol Cymreig wedi ysgrifennu at brif weithredwr OFGEM yn galw ar y rheoleiddiwr ynni i adolygu trwydded Green Gen Cymru.

Yn y llythyr at Tim Jarvis, mae Ann Davies a Ben Lake o Blaid Cymru a David Chadwick o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo gweithwyr ar ran y cwmni o "anwybyddu rheolau i amddiffyn tirfeddianwyr" wrth gynnal ymweliadau â thir ar hyd llinell arfaethedig Tywi Wysg.

Dywedodd llefarydd ar ran Green Gen Cymru fod disgwyl i bobl sy'n gweithio ar eu rhan gadw at eu polisïau, a'u bod yn annog tirfeddianwyr i gysylltu gyda nhw os oes pryderon penodol.

Yn ôl OFGEM, mae creu seilwaith trydan newydd yn hanfodol, ond mae disgwyl i gwmnïau gwrdd â gofynion eu trwydded ac mae cydymffurfio gydag amodau trwydded yn fater difrifol.

'Pryder cynyddol' am ymddygiad honedig gweithwyr ar gynllun peilonau

Dadlau am godi 60 milltir o beilonau yn ardal Dyffryn Tywi

500 o ffermwyr yn mynd â chwmni peilonau trydan i'r Uchel Lys

Mae Green Gen Cymru yn bwriadu adeiladu o leiaf tri llwybr o beilonau i gysylltu ffermydd gwynt yn y canolbarth a'r gorllewin gyda'r grid cenedlaethol.

Mae ganddyn nhw drwydded IDNO gan OFGEM sydd yn caniatáu iddyn nhw adeiladu a rhedeg rhwydweithiau dosbarthu trydan.

Ym mis Gorffennaf, fe ddyfarnodd yr Uchel Lys y dylai Green Gen roi rhybudd digonol i dirfeddianwyr a thenantiaid cyn dod ar eu tir i gynnal archwiliadau a bod yna ddiffyg ystyriaeth wedi bod o bryderon bioddiogelwch wrth ymweld â ffermydd.

Mae gan y cwmni bwerau statudol i gael mynediad i dir o ganlyniad i waith ar yr hyn allai fod yn isadeiledd ynni o bwysigrwydd cenedlaethol.

Ers y dyfarniad, mae yna wrthdaro wedi bod rhwng gweithwyr sydd yn gwneud archwiliadau ar ran Green Gen Cymru a thirfeddianwyr mewn sawl ardal.

Fe fydd peilonau yn rhedeg drwy'r safle hwn ger Llanymddyfri

Yn y llythyr, mae Ann Davies AS yn honni bod contractwyr wedi mynd ar dir preifat aelod o'r teulu heb ganiatâd a bu'n rhaid galw'r heddlu. Mae hi'n cwyno nad oes rhybudd digonol wedi bod.

"Gethon ni, yn ein hachos ni, gymydog yn ffonio i ddweud bod nhw ar y caeau," esboniodd.

"Fe aethon ni lan yn syth. Wnes i ofyn iddyn nhw adael y cae. Doedden ni ddim wedi cael unrhyw fath o rybudd. Dim llythyron, dim gwybodaeth. A dyma nhw wedi gosod dril a mynd i wneud y boreholes.

"Yn anffodus, fe halodd e bedair awr a hanner i gael nhw off y cae, ac o'dd hynny dim ond gyda help yr heddlu.

"Un esiampl ydw i, mae dwsinau o esiamplau tebyg ble dy' nhw ddim wedi bod yn rhoi rhybudd. Dyw'r ymddygiad yma ddim yn ddigon da. Dyna pam ni'n edrych ar OFGEM i edrych ar y drwydded."

Mae Ann Davies o'r farn nad yw tirfeddianwyr yn derbyn digon o rybudd cyn ymweliadau gan gontractwyr

Wrth ymateb i sylwadau Ann Davies, dywedodd Guto Davies, pennaeth materion allanol Green Gen Cymru, nad "oedd yn barod i drafod materion unigolion yn gyhoeddus".

Fe honnodd Mr Davies fod yna dri achos arall ble mae gweithwyr ar ran y cwmni wedi gorfod ffonio'r heddlu, ac mewn un achos bod "unigolyn wedi mynd a chymryd goriad allan o un o'r peiriannau".

Dywedodd wrth Newyddion S4C fod angen "cymryd cam yn ôl i ystyried pam mae'r math o waith yma yn hollbwysig".

"Mae'n bwysig fel bo' ni'n gallu cael y gwaith sydd ei angen er mwyn gwneud yn siŵr bod y seilwaith yma yn cael ei ddatblygu yn effeithiol. Seilwaith sydd wir ei angen ar Gymru. Mae'r seilwaith grid yn hollbwysig i fusnesau a chymunedau ac mae'n bwysig i bobl sydd am weld biliau yn mynd i lawr," ychwanegodd.

"Ar weithgareddau ble 'dan ni'n mynd ar y tir, 'dan ni'n cymryd y rheini o ddifrif.

"Mae'n hollbwysig bo' ni'n gweithio gyda phobl sydd ar y tir. Lle mae yna enghreifftiau ble 'da ni heb wneud pethau yn iawn, 'da ni'n gofyn i bobl ddod atom ni er mwyn i ni edrych ar y ffeithiau a delio ag ymateb ble mae angen."

Yn ôl Dyfan Walters, ffermwr o ardal Llanymddyfri, mae'r sefyllfa yn gwaethygu ar hyn o bryd

Fe godwyd pryderon rai wythnosau yn ôl gan dirfeddianwyr am ymddygiad contractwyr Green Gen Cymru.

Yn ôl Dyfan Walters, ffermwr o ardal Llanymddyfri sydd yn ymgyrchu yn erbyn peilonau yn Nyffryn Tywi, dyw'r sefyllfa ddim wedi gwella.

"Yn sicr, gwaethygu. Mae'r pwyse maen nhw yn roi ar ffermwyr ar y foment yn anodd credu.

"Mae'n neis i weld Ann Davies yn rhannu ei phrofiad hi o drio gweithio gyda'r cwmni. Dy' nhw ddim yn dilyn eu polisïau eu hunain.

"Dy' nhw ddim yn fodlon rhannu unrhyw wybodaeth ar y gwaith maen nhw yn meddwl gwneud, fel maen nhw'n mynd i wneud y gwaith, shwd maen nhw yn mynd i sicrhau fod popeth yn cael ei wneud yn saff, shwd maen nhw yn mynd i sicrhau fod biosecurity yn mynd i gael ei edrych ar ôl.

"So nhw'n fodlon rhannu manylion yswiriant gyda ni. Mae'r enghreifftiau yn mynd 'mlaen a 'mlaen."

Green Gen Cymru yn 'fodlon cydweithio'

Mae Guto Davies yn gwrthod yr honiadau gan yr aelodau seneddol bod ei gwmni yn anwybyddu'r rheolau.

"Tydw i ddim yn cydnabod y fath o iaith sydd yn cael ei ddefnyddio i geisio dweud bod y busnes yn gwneud hyn ar draws y prosiect.

"Dim hynny yw ein profiad ni fel busnes a'r bobl sydd yn gweithio gyda ni. Lle mae yna enghreifftiau, 'dan ni'n gofyn i bobl ddod aton ni."

Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn hyderus bod Green Gen Cymru yn cadw at ofynion y drwydded gan OFGEM a'u bod yn "fodlon cydweithio" gyda'r rheoleiddiwr os oes yna bryderon neu gwestiynau pellach.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran OFGEM: "Mae adeiladu isadeiledd ar gyfer y rhwydwaith trydan sydd ei angen i greu system ynni mwy diogel yn hanfodol, ond mae'n rhaid i gwmnïau gwrdd â'i gofynion os ydyn nhw yn dal trwydded.

"Mae cydymffurfio ag amodau trwydded yn fater difrifol, ac fe fyddwn ni yn cymryd y camau priodol os nad yw cwmnïau yn cwrdd â'r gofynion hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig